2014 Rhif 632 (Cy. 72)

anifeiliaid, Cymru

Iechyd Anifeiliaid

Gorchymyn Twbercwlosis (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1379 (Cy. 122)) (“Gorchymyn 2010”) a Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2011 (O.S. 2011/692 (Cy. 104)) (“Gorchymyn 2011”). Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i gymeradwyo milfeddygon i gynnal profion diagnostig penodol ar gyfer twbercwlosis (profion perthnasol) ar anifeiliaid buchol, ac anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol, ac i archwilio a marcio'r anifeiliaid hynny. Mae'n darparu ar gyfer gofynion awtomatig i fod yn gymwys i geidwad pan fo prawf perthnasol yn datgelu adweithydd neu adweithydd amhendant.

Mae erthyglau 2(2) a 3(2) yn cyflwyno i Orchmynion 2010 a 2011, yn y drefn honno, ddiffiniad newydd o “milfeddyg cymeradwy” ac yn diwygio'r diffiniad o “prawf perthnasol”.

Mae erthyglau 2(3) a 3(3) yn darparu i Weinidogion Cymru gymeradwyo milfeddygon.

Mae erthygl 2(4) yn diwygio erthygl 12 o Orchymyn 2010, ac mae erthygl 3(4) yn diwygio erthygl 9 o Orchymyn 2011, drwy fewnosod—

(a)     paragraff newydd yn lle paragraff (3) sy'n nodi'r amgylchiadau pan fo'r gofynion a nodir ym mharagraff (3A) yn gymwys i'r ceidwad;

(b)     paragraff (3B) newydd sy'n darparu ar gyfer arolygydd i ddiwygio neu i ddatgymhwyso gofynion penodol drwy hysbysiad ar unrhyw adeg;

(c)     paragraff (8) newydd sy'n darparu ar gyfer adrodd ar ganlyniad prawf nad yw'n negyddol i Weinidogion Cymru.

Mae erthygl 2(5) yn galluogi milfeddyg cymeradwy i gynnal profion cyn symud ar anifeiliaid buchol.

Mae erthyglau 2(7) a 3(6) yn galluogi milfeddyg cymeradwy i farcio, neu roi cyfarwyddyd i'r ceidwad farcio, anifeiliaid buchol ac anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol, yn y drefn honno.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r manteision sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

2014 Rhif 632 (Cy. 72)

anifeiliaid, cymru

Iechyd Anifeiliaid

Gorchymyn Twbercwlosis (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014

Gwnaed                               12 Mawrth 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru                                     14 Mawrth 2014

Yn dod i rym                             6 Ebrill 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 8(1), 15(4), 25 ac 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981([1]).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.(1)(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Twbercwlosis (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Ebrill 2014.

Diwygiadau i Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010

2.(1)(1) Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010([2]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)  Yn erthygl 2 (dehongli)—

(a)     ar ôl y diffiniad o “mangre” mewnosoder—

ystyr “milfeddyg cymeradwy” (“approved veterinary inspector”) yw milfeddyg a gymeradwyir yn unol ag erthygl 2A;”; a

(b)     yn lle'r diffiniad o “prawf perthnasol” rhodder—

ystyr “prawf perthnasol” (“relevant test”) yw—

(a)   prawf croen; neu

(b)  unrhyw brawf diagnostig arall ar gyfer twbercwlosis a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru;”.

(3) Ar ôl erthygl 2 mewnosoder—

Cymeradwyo milfeddygon

2A.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo milfeddyg—

(a)   pan fo'r milfeddyg wedi ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru, a

(b)  pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn bod y milfeddyg yn addas i gyflawni swyddogaethau a roddir i filfeddyg cymeradwy gan y Gorchymyn hwn.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, ddirymu'r gymeradwyaeth honno, gan roi rhesymau am y dirymiad.”

(4) Yn erthygl 12 (profi ar gyfer twbercwlosis)—

(a)     ym mharagraff (2) ar ôl y geiriau “ofynion rhesymol arolygydd” mewnosoder “neu filfeddyg cymeradwy”;

(b)     yn is-baragraff (a) o baragraff (2) ar ôl y gair “arolygydd” mewnosoder “neu filfeddyg cymeradwy”;

(c)     yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Mae'r gofynion ar y ceidwad ym mharagraff (3A) yn gymwys—

(a)   pan fo prawf perthnasol wedi ei gynnal ar anifail buchol;

(b)  pan fo arolygydd neu filfeddyg cymeradwy wedi darllen canlyniad y prawf hwnnw ac wedi mynegi’r canlyniad hwnnw i’r ceidwad; ac

(c)   pan fo'r arolygydd neu'r milfeddyg cymeradwy wedi ei fodloni bod darlleniad y prawf yn datgelu bod yr anifail buchol naill ai'n adweithydd, neu'n adweithydd amhendant.

(3A) Y gofynion yw—

(a)   na symudir anifail buchol ar y fangre neu o'r fangre lle cedwir yr adweithydd neu'r adweithydd amhendant ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd;

(b)  sicrhau bod pob adweithydd ac adweithydd amhendant wedi ei ynysu oddi wrth anifeiliaid eraill;

(c)   caniatáu i bob adweithydd gael ei farcio gan y person a ddarllenodd y prawf perthnasol neu gan un o swyddogion Gweinidogion Cymru;

(ch) peidio â rhoi unrhyw laeth gan fuwch odro sy'n adweithydd mewn tanc llaeth swmp; a

(d)  pan fo'r adweithydd yn preswylio mewn mangre gyda buches odro, hysbysu pob prynwr masnachol sy'n prynu llaeth o’r fuches honno bod y fuches odro wedi colli ei statws rhydd rhag twbercwlosis.

(3B) Caiff arolygydd, drwy hysbysiad, ddiwygio neu ddatgymhwyso y gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (3A)(a) neu (b) ar unrhyw adeg.”; a

(d)     ar ôl paragraff (7) mewnosoder—

(8) Rhaid i’r arolygydd neu’r milfeddyg cymeradwy sy'n darllen canlyniad prawf perthnasol sy'n datgelu adweithydd neu adweithydd amhendant adrodd ar y canlyniad prawf hwnnw i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n ymarferol resymol.

(9) Yn yr erthygl hon—

ystyr “adweithydd amhendant” (“inconclusive reactor”) yw anifail buchol sy'n datgelu darlleniad nad yw'n negyddol pan gaiff ei brofi ar gyfer twbercwlosis, ond ni chaiff ei ystyried yn adweithydd; ac

ystyr “colli ei statws rhydd rhag twbercwlosis” (“loss of tuberculosis-free status”) yw nad yw'r fuches bellach yn bodloni'r amodau a osodir yn Atodiad A.I, paragraffau 1 a 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC ar broblemau iechyd anifeiliaid sy'n effeithio ar fasnach ryng-Gymunedol mewn anifeiliaid buchol ac anifeiliaid o deulu'r mochyn.”

(5) Yn erthygl 13 (profion cyn symud)—

(a)     ym mharagraff (1)(b) ar ôl “arolygydd” mewnosoder “neu filfeddyg cymeradwy”; a

(b)     ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Pan nad yw darlleniad y prawf ym mharagraff (1)(b) yn datgelu canlyniad negyddol ar gyfer twbercwlosis mae'r gofynion yn erthygl 12(3A) yn gymwys.”

(6) Ym mharagraff (1) o erthygl 14 (cofnodion o brofion ar gyfer twbercwlosis) ar ôl “arolygydd” mewnosoder “neu filfeddyg cymeradwy”.

(7) Yn erthygl 21 (marcio anifeiliaid buchol)—

(a)     yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan arolygydd neu filfeddyg cymeradwy rhaid i'r ceidwad farcio unrhyw anifail buchol yn y modd sy'n ofynnol gan yr arolygydd neu'r milfeddyg cymeradwy.”; a

(b)     ym mharagraff (2) ar ôl “arolygydd” mewnosoder “neu'r milfeddyg cymeradwy”.

Diwygiadau i Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2011

3.(1)(1) Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2011([3]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn erthygl 2 (dehongli)—

(a)     ar ôl y diffiniad o “mangre” mewnosoder—

“ystyr “milfeddyg cymeradwy” (“approved veterinary surgeon”) yw milfeddyg a gymeradwyir yn unol ag erthygl 2A;”; a

(b)     yn lle'r diffiniad o “prawf perthnasol” rhodder—

“ystyr “prawf perthnasol” (“relevant test”) yw—

(a)   prawf croen; neu

(b)  unrhyw brawf diagnostig arall ar gyfer twbercwlosis a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru;”.

(3) Ar ôl erthygl 2 mewnosoder—

Cymeradwyo milfeddygon

2A.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo milfeddyg—

(a)   pan fo'r milfeddyg wedi ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru, a

(b)  pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn bod y milfeddyg yn addas i gyflawni swyddogaethau a roddir i filfeddyg cymeradwy gan y Gorchymyn hwn.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, ddirymu'r gymeradwyaeth honno, gan roi rhesymau am y dirymiad.”

(4) Yn erthygl 9 (profi ar gyfer twbercwlosis)—

(a)     ym mharagraff (2) ar ôl y geiriau “ofynion rhesymol arolygydd” mewnosoder “neu filfeddyg cymeradwy”;

(b)     yn is-baragraff (a) o baragraff (2) ar ôl y gair “arolygydd” mewnosoder “neu filfeddyg cymeradwy”;

(c)     yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Mae’r gofynion ar y ceidwad ym mharagraff (3A) yn gymwys—

(a)   pan fo prawf perthnasol wedi ei gynnal ar anifail nad yw'n anifail buchol;

(b)  pan fo arolygydd neu filfeddyg cymeradwy wedi darllen canlyniad y prawf hwnnw ac wedi mynegi’r canlyniad hwnnw i’r ceidwad; ac

(c)   pan fo'r arolygydd neu'r milfeddyg cymeradwy wedi ei fodloni bod darlleniad y prawf yn datgelu bod yr anifail nad yw'n anifail buchol naill ai'n adweithydd, neu'n adweithydd amhendant.

(3A) Y gofynion yw—

(a)   na symudir anifail nad yw’n anifail buchol ar y fangre neu o'r fangre lle cedwir yr adweithydd neu'r adweithydd amhendant ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd;

(b) sicrhau bod pob adweithydd ac adweithydd amhendant wedi ei ynysu oddi wrth anifeiliaid eraill;

(c)  caniatáu i bob adweithydd gael ei farcio gan y person a ddarllenodd y prawf perthnasol neu gan un o swyddogion Gweinidogion Cymru; 

(ch) peidio â rhoi unrhyw laeth gan adweithydd mewn tanc llaeth swmp; a

(d)  pan fo'r adweithydd yn preswylio mewn mangre gyda buches odro, hysbysu pob prynwr masnachol sy'n prynu llaeth o’r fuches honno bod adweithydd wedi ei ddarganfod yn y fangre.

(3B) Caiff arolygydd, drwy hysbysiad, ddiwygio neu ddatgymhwyso y gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (3A)(a) neu (b) ar unrhyw adeg.”; a

(d)     ar ôl paragraff (7) mewnosoder—

(8) Rhaid i’r arolygydd neu’r milfeddyg cymeradwy sy'n darllen canlyniad prawf perthnasol sy'n datgelu adweithydd neu adweithydd amhendant adrodd ar y canlyniad prawf hwnnw i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n ymarferol resymol.

(9) Yn yr erthygl hon ystyr “adweithydd amhendant” (“inconclusive reactor”) yw anifail nad yw'n anifail buchol sy'n datgelu darlleniad nad yw'n negyddol pan gaiff ei brofi ar gyfer twbercwlosis, ond na chaiff ei ystyried yn adweithydd.”

(5) Ym mharagraff (1) o erthygl 10 (cofnodion o brofion ar gyfer twbercwlosis) ar ôl “arolygydd” mewnosoder “neu filfeddyg cymeradwy”.

(6) Yn erthygl 16 (marcio a symud anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol)—

(a)     yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan arolygydd neu filfeddyg cymeradwy rhaid i'r ceidwad farcio unrhyw anifail nad yw'n anifail buchol yn y modd sy'n ofynnol gan yr arolygydd neu'r milfeddyg cymeradwy”;

(b)     ym mharagraff (2) ar ôl “arolygydd” mewnosoder “neu filfeddyg cymeradwy”; ac

(c)     ym mharagraff (4) ar ôl “arolygydd” mewnosoder “neu filfeddyg cymeradwy”.

 

 

Alun Davies

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

12 Mawrth 2014



([1])   1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidogion o dan adran 1 o Ddeddf 1981, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn rhinwedd O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn rhinwedd O.S. 2004/3044. Mae'r swyddogaethau hynny, a oedd yn arferadwy o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([2])   O.S. 2010/1379 (Cy. 122), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2012/2897.

([3])   O.S. 2011/692 (Cy. 104).